Gwefan Free Babylon 5
Ar gyfer cefnogwyr ledled y byd, cafodd ymgyrch #FreeBabylon5 ei chynnal o 2013 i 2024
Gweld y prosiect »
Mae Rhedyn yn gwmni adeiladu creadigol, wedi ei leoli yn Sir Fflint. Rydyn ni wrth ein boddau yn adeiladu gwefannau diogel â’n dwylo ein hunain, creu atebion meddalwedd wedi eu teilwra i ddatrys eich problem, a gwella diogelwch gwefannau.
(o Google)"Gwnaeth y busnes yma, sy’n cael ei redeg gan Ben, fy helpu i wella diogelwch ar wefan y British Dupuytren's Society. Roedd hi’n hawdd deall Ben (dydw i ddim yn un am bethau technegol) ac ymatebodd yn brydlon i fy holl ymholiadau. Byddwn i’n ei argymell i unrhyw un sydd eisiau help gyda’u gwefan."
— A S Schurer
Bob cam o’r ffordd—o’r syniad cyntaf i’r dyluniad ac i’r sgrîn—rydyn ni’n darparu popeth rydych chi ei angen i drefnu ymgyrch, i gychwyn busnes, neu i hysbysebu cynnyrch.
Rydyn ni wedi adeiladu pob math o wefannau, fel gwefannau marchnata, siopau ar-lein, llwyfannau fideo, a blogiau garddio personol.
Gallwn ni wneud archwiliad diogelwch o’ch parth, eich system letya, a’ch rhaglen, gan argymell ffyrdd o drwsio unrhyw broblemau byddwn ni’n eu darganfod. Bydd yr archwiliad yn cael ei gyflwyno ichi mewn dogfen wedi ei theilwra i chi yn bersonol.
Rydyn ni’n arbenigo mewn ymgyrchoedd e-byst. Gallwn ni lunio neges e-bost ichi a ellir ei mewngludo i raglen e-byst o’ch dewis chi ac a fydd yn edrych yn hyfryd ar bob rhaglen e-bost poblogaidd.
A oes gennych chi rywbeth penodol dan sylw? Efallai Rhyngwyneb Rhaglennu Rhaglen (API)? Neu rywbeth ar ochr flaen eich gwefan? Animeiddiad sy’n arddangos yr hyn rydych chi’n ei gynhyrchu? Diagram llif defnyddwyr penodol? Neu efallai bod eich teclyn deallusrwydd artiffisial wedi gwneud hyn a hyn, ond ddim digon. Gallwn ni gymryd y cod a’i gwblhau ichi mewn ffordd y bydd pobl, nid jest peiriannau, yn gallu ei ddeall!
“Allwn ni ddim argymell [Rhedyn] ddigon!”
— Nikki Walker, Brookmans Path Osteopaths
“Bob tro rydw i’n mynd i’r wefan, mae’n fy nharo i pa mor ddeniadol ydi hi. Wir ichi. Dydw i byth yn blino arni—y lliwiau, y cynnwys, popeth.”
— Jan, #FreeBabylon5 Campaign Organiser
Cafodd Rhedyn ei sefydlu gan Benjamin Read, dylunydd a datblygwr a gychwynnodd ei yrfa yn gweithio ar ddeunydd marchnata mewnol a hysbysebol ar gyfer darparwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd yn y 90au.
Ar ôl gweithio yn ei asiantaeth marchnata digidol ei hun am nifer o flynyddoedd, trodd Ben ei law at ddatblygu meddalwedd menter, gan weithio i Zopa Bank, ac yn hwyrach ymlaen, Purple Bricks.
Ar ôl symud i Ogledd Cymru yn ddiweddar, a mynd yn ôl i’w wreiddiau Cymreig, sylweddolodd Ben ei fod eisiau cyflawni mwy yn y maes marchnata digidol.
Cafodd yr enw Cymraeg hwn ei ysbrydoli gan y gerdd “Gwyn Fyd y Griafolen” gan Alun Llywelyn-Williams.
Mae dail ffractal y planhigion hyn, yn eu lliwiau gwyrdd tywyll ac eurfrown hyfryd, yn ein hatgoffa o’r ffordd mae syniad yn egino ac yn tyfu, ac weithiau’n mynd i gyfeiriad hollol newydd, gyda’r tîm creadigol cywir.
Mae cydnabod hyn wrth wraidd ymdrechion Rhedyn i sicrhau deunydd creadigol a gwreiddiol, a hynny ar yr ochr weledol a’r ochr dechnegol.
Ar gyfer cefnogwyr ledled y byd, cafodd ymgyrch #FreeBabylon5 ei chynnal o 2013 i 2024
Gweld y prosiect »
Gwnes i ddylunio tua 30 cerdyn post i gwmni cardiau post blaenllaw yn Llundain. Cawson nhw eu harddangos ar hyd a lled Llundain mewn siopau cofroddion, ac maen nhw wedi cael eu hanfon i bedwar ban byd.
Gweld y prosiect »
Rydyn ni eisiau eich helpu i gyrraedd eich amcanion drwy gyfrwng technoleg.
Ac mae hynny’n cynnwys cyrraedd marchnadoedd newydd o gwsmeriaid, adeiladu offer meddalwedd penodol, neu wella eich marchnata ar-lein.
Cysylltu â ni heddiw